#

Y Pwyllgor Deisebau | 27 Chwefror 2018
 Petitions Committee | 27 February 2018
 
 
 ,Cynllun Llifogydd y Rhath 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-801

Teitl y ddeiseb: Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Testun y ddeiseb: Fel trigolion lleol, rydym yn credu bod y gwaith arfaethedig i atal llifogydd yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath ym Mhen-y-lan, Caerdydd yn ddinistriol, ac yn ddianghenraid felly.

Rydym wedi gweld y llanast yng Ngerddi Waterloo ac yn gwrthwynebu Cyfnod 3 o Gynllun Llifogydd y Rhath gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn ehangu'r nant ym Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath gan arwain at gwymp dros 30 o goed mewn ardal lle na chafwyd unrhyw lifogydd yn y gorffennol.

Rydym am achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath er mwyn gwarchod cymeriad yr ardal, lleihau'r difrod ecolegol a gwarchod cynefinoedd ein bywyd gwyllt lleol.

Credwn nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried yn briodol yr holl opsiynau sydd ar gael, a'u bod wedi camarwain y cyhoedd â ffigyrau anghywir yn ystod eu cyfnod ymgynghori, a chredwn ei bod, mewn gwirionedd, yn ddianghenraid i chwalu gerddi'r parc er mwyn ehangu sianel y nant gan waredu hen goed yn y broses.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i'r gwaith yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath ac ystyried yr opsiynau ymarferol eraill sydd ar gael i liniaru'r perygl canfyddedig o lifogydd yn yr ardal hon.

Y cefndir

Mae gwybodaeth fanwl am Gynllun Llifogydd y Rhath ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r manylion yn cynnwys gwybodaeth am y gwaith o gael gwared ar goed a phlannu coed ac ymgynghoriad (PDF 85.4KB) a gynhaliwyd fel rhan o'r cynnig.

Ar adeg ysgrifennu'r briff hwn, roedd 8,578 o bobl wedi llofnodi deiseb ar Change.org yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn y gwaith arfaethedig ac annog Cyfoeth Naturiol Cymru i “ystyried yr opsiynau ymarferol eraill sydd ar gael”.

Ffigur 1. Safle Cynllun Llifogydd y Rhath [Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru]

 

Mae Nant y Rhath wedi achosi llifogydd mewn eiddo ar sawl achlysur, gan gynnwys digwyddiadau arwyddocaol ym 1979, 1995, 1998 a 2009. Gorlifodd y nant ei glannau yn fwyaf diweddar pan gafwyd llifoedd afon uchel yn 2007 a 2009, a phan gafwyd llanw uchel yn 2010 a 2012. Disgwylir i nifer y digwyddiadau o'r fath gynyddu dros amser am fod lefelau'r môr yn codi ac am fod digwyddiadau dwysach o ran glawiad ar gynnydd hefyd, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

 

 

Ffigur 2. Ardal risg llifogydd y Rhath [ffynhonnell: poster gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru  (PDF11.3MB)]

Nod y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd, sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu ers dros pum mlynedd, yw lleihau'r perygl o lifogydd i dros 400 o eiddo (360 o breswylwyr, 45 o fusnesau).

Dangosir y perygl o lifogydd afonol yn yr ardal yn Nhabl 1 isod:

Tabl 1. Perygl o lifogydd afonol yn y Rhath. [Ffynhonnell: Cynllun Llifogydd y Rhath – Cwestiynau Cyffredin, Ebrill 2017 (PDF 172.1 KB)]

Nod y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yw gwella’r amddiffyniad ar gyfer y gymuned fel bod lefel y risg yn gyfystyr ag un digwyddiad mewn 75 mlynedd (tebygolrwydd o 1.3 y cant o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn benodol) mewn achosion o lifogydd yn sgil llif uchel afonydd, ac yn gyfystyr ag un digwyddiad mewn 150 mlynedd yn achos llifogydd llanwol (tebygolrwydd o 0.6 y cant mewn unrhyw flwyddyn benodol).

Gellir gweld y cais cynllunio ar gyfer Cynllun Llifogydd y Rhath a'r penderfyniad i'w gymeradwyo ar wefanCyngor Dinas Caerdydd.

Arfarnu opsiynau

Ystyriwyd nifer o atebion i ddechrau mewn ymarfer arfarnu opsiynau, gan gynnwys carthu ac amddiffynfeydd dros dro. Mae manylion yr opsiynau hyn wedi'u harddangos fel posteriyn yr ardal (PDF 26.1MB), ac yn cael eu trafod yn nogfen Cynllun Llifogydd y Rhath – Cwestiynau Cyffredin Cynllun (PDF 172.1KB).

Yn ôl ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru, y ffordd mwyaf priodol o reoli'r perygl o lifogydd fyddai drwy gadw llifddwr o fewn coridor yr afon.

Cael gwared ar goed a phlannu coed

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi'r angen i gael gwared ar rai coed ar lannau Nant y Rhath er mwyn adeiladu'r cynllun llifogydd newydd. Cynhaliwyd Asesiad Effaith ar Goedyddiaeth (PDF 8.2MB) gan ymgynghorwyr annibynnol ar goedwigaeth (dan gyfarwyddwyd Nicholas Pearson Associates) ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r asesiad yn nodi'r dulliau a ddefnyddiwyd, canfyddiadau a chynigion. Mae hefyd yn dangos dau ddiwygiad i'r asesiad (dyddiedig 28-02-2017 a 27-11-2017, y tynnir sylw atynt drwy'r asesiad) sy’n ymwneud â lleihau nifer y coed a ddewiswyd i gael eu torri i lawr.

Mae'r asesiad yn nodi'r mesurau a gyflwynwyd i leihau effaith y gwaith, gan gynnwys parthau amddiffyn gwreiddiau dynodedig a mannau adeiladu arbennig lle na fydd gwaith palu.

Cynigir cael gwared ar gyfanswm o 141 o goed ac mae 13 ohonynt wedi'u dosbarthu fel 'categori U'[1], sy'n golygu na fyddai'n addas eu cadw. Bu Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Cyngor Caerdydd yn adolygu'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r cynllun ar 5 Rhagfyr 2017. Dyma a nodwyd yn y llythyra anfonwyd at Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn hynny (PDF 469KB):

approximately eight of the trees were removed on request from the Council, and that these trees would ordinarily have been felled as a part of a one to three year programme. Natural Resources Wales has accepted the financial cost for removing these trees.

Fodd bynnag, mae 37 wedi’u dosbarthu fel coed o safon uchel i safon gymedrol. Yn ôl yr Asesiad Effaith ar Goedyddiaeth:

Although removal of the 37 “A” and “B” category trees is regrettable, this is considered the minimum number of trees that must be removed to implement the flood defence scheme.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd 105 o goed newydd yn cael eu plannu yn y gerddi (rhwng 2.5 metr a 5 metr o uchder) yn lle'r coed a gaiff eu torri i lawr. Mae manylion am y mathau o goed a gaiff eu plannu a ble y byddant yn cael eu rhoi yn y Cynlluniau Plannu Coed (PDF 3.6MB). Dewiswyd tri math o goed i ategu cymeriad presennol y gerddi ac mae manylion amdanynt yn y cynlluniau.

Caiff dros 200 o goed ifanc eraill eu plannu ar dir hamdden y Rhath.

Gwallau yn y data

Rhwng 13 Hydref 2016 a 3 Mawrth 2017, roedd deunydd ymgynghori Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi'n anghywir fod dros 400 o eiddo mewn perygl o lifogydd yn ystod digwyddiad â thebygolrwydd o 1:5 h.y. 20 y cant o siawns o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mewn gwirionedd, mae 405 o eiddo mewn perygl o lifogydd yn ystod digwyddiad â thebygolrwydd o 1:75 h.y. 1.3 y cant o siawns o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn benodol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn  cydnabod (PDF 64.9KB) y gwall hwn ac yn nodi:

We would like to stress that information included in the detailed planning application and in consultation material leading up to this was correct. Therefore, we do not believe that this error impacted the consultation process significantly, as much of project planning was complete by this time, and planning permission had already been granted in April 2016.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Ynghyd â gofynion ymgynghori statudol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus gan gynnwys ymweld â phobl ar stepen y drws, arddangos arwyddion, cynnal sesiynau galw heibio a dosbarthu cylchlythyrau rheolaidd (sydd ar gael ar-lein). Gweler y ddogfen Digwyddiadau Ymgynghori Cyhoeddus Allweddol (PDF 87.4KB) i gael manylion llawn.

Yn dilyn hynny, o ganlyniad i ymgyrchu cymunedol pellach, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfarfodydd ychwanegol gyda'r grŵp ymgyrchu (@RoathBrookTrees) ar 12 a 17 Ionawr 2018, a chynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu cymunedol pellach yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 22 Ionawr 2018. Mae'r cyflwyniadau a ddefnyddiwyd yn y digwyddiadau cyhoeddus hyn ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y cyfryngau

Mae'r gwaith arfaethedig wedi cael sylw yn y cyfryngau a chyhoeddwyd erthyglau am y gwaith ar BBC News, a nifer o erthyglau ar WalesOnline.

Rhoddwyd sylw i'r gwaith celf a gomisiynwyd fel rhan o'r gwaith adfywio ar gyfryngau'r BBC hefyd.

Camau gweithredu'r llywodraeth leol

Cyfarfu Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Cyngor Caerdydd â Cyfoeth Naturiol Cymru ar 5 Rhagfyr 2017 i drafod y gwaith o ddatblygu a gweithredu Cynllun Llifogydd y Rhath. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd y Pwyllgor at Cyfoeth Naturiol Cymru ar 7 Rhagfyr (PDF 469KB).

Er i'r Pwyllgor nodi nad oedd ganddo'r gallu i orfodi newidiadau i'r cynllun ac nad oedd yn cymeradwyo'n benodol naill ai'r cynllun a gynigiwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru nac unrhyw ddewisiadau eraill a gyflwynwyd, gofynnodd am y cadarnhad a ganlyn:

I would be grateful if you could provide confirmation of the overall dry land surface area that will be lost as a result of this scheme at this location once it is available.

The Committee would like assurance that these (scheme) alternatives have been considered and evaluated as a part of the development of the scheme

Atebodd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn datganiad (PDF 64.9KB) dyddiedig 8 Rhagfyr 2017. Daeth i'r casgliad a ganlyn:

the Committee is content the scheme is appropriate and necessary, so we shall continue with our planned work from 11 December.

Mae hefyd yn trafod y gost ychwanegol o oedi'r gwaith ymhellach:

For example, a 4-month delay to undertake an independent review would incur an estimated additional cost of £200,000 of public money and prolong our presence and the disruption in Roath. Additional cost incurred on this scheme means less funding for other flood risk projects required across Wales.

Cyflwynwyd llythyrau yn cefnogi'r cynllun gan ddau gynghorydd lleol fel rhan o'r cais cynllunio.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei llythyr at y Pwyllgor, dywed Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC, fod Cyfoeth Naturiol Cymru, ar ei chais hi, wedi atal trydydd cam y gwaith torri coed (a gynlluniwyd ar gyfer 11 Rhagfyr) er mwyn rhoi amser i ystyried y cynllun ymhellach. Dywedodd ei bod wedi cyfarfod â swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru y diwrnod hwnnw i drafod pryderon trigolion yn ogystal â'r opsiynau ehangach a archwiliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd yn yr ardal.

Cyfarfu Gweinidog yr Amgylchedd ag ymgyrchwyr ar 22 Ionawr 2018. Rhoddodd y grŵp ymgyrchu ddiweddariad ar Change.org yn dweud:

“The meeting was constructive and positive and we await feedback”.

Ers hynny, mae'r Gweinidog wedi ymateb i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad mewn llythyr dyddiedig 2 Chwefror 2018, lle y mae'n cyfeirio at ohebiaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychiolwyr etholedig. Mae'n ymateb i'r pryderon ynghylch yr effaith ecolegol:

I am assured that NRW have carried out all of the necessary ecological surveys as required for the planning permission from Cardiff Council in order to construct this scheme.

Dywedodd hefyd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi chwe choeden arall nad oes yn rhaid eu torri i lawr. Daw'r llythyr i'r casgliad:

I will now await the outcome of NRWs public workshops and continue to seek a way forward that alleviates risk and addresses residents’ concerns.

Camau gweithredu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae cyfanswm o 13 o gwestiynau ysgrifenedig wedi'u cyflwyno ar Gynllun Llifogydd y Rhath; cawsant eu hateb gan Weinidog yr Amgylchedd. Mae amheuon ynghylch i ba raddau y mae angen y cynllun a pha mor addas ydyw, a chwestiynau ynglŷn â’r mesurau amgensydd wedi’u hystyried. Mae'r mater wedi cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, lle rhoddodd Weinidog yr Amgylchedd y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau mewn llythyr dyddiedig 24 Ionawr 2018 sy'n cyfeirio at bob un o bwyntiau'r ddeiseb yn eu tro. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod effaith tymor byr y gwaith, mae'n dod i'r casgliad:

We should like to stress that we are confident that our proposals will provide the flood protection required, the least impact on the environment, whilst maintaining the Edwardian heritage of the parks and gardens for future generations.

Rhagor o wybodaeth

Adroddiad Amgylcheddol Cynllun Llifogydd y Rhath  (mewn tair rhan)

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] “Those in such a condition that they cannot realistically be retained as living trees in the context of the current land use for longer than 10 years” (source: Yr Asesiad Effaith ar Goedyddiaeth, atodiad c (PDF 8.2MB)